Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASH)

Mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASH) yn gweithio i sicrhau bod hysbysebion yn gyfreithlon, gweddus, gonest a gwir. Rydym yn archwilio cwynion am hysbysebion, ymgyrchoedd hyrwyddo gwerthiant a marchnata uniongyrchol, ac yn monitro'r cyfryngau i sicrhau bod codau hysbysebu yn cael eu glynu atynt.

 

Medrwch gwyno i ni os ydych:

 

§             Yn ystyried bod rhywbeth o'i le gyda hysbyseb rydych wedi ei weld neu ei glywed

§             Yn cael anhawster cael nwyddau neu ad-daliad am eitemau a brynwyd wrth archebu trwy'r post neu trwy sianeli siopa ar y teledu

§             Yn ystyried bod cynnig arbennig, cystadleuaeth gyda gwobr neu hyrwyddiad gwerthu arall wedi bod yn annheg

§             Eisiau stopio post uniongyrchol gan gwmnïau naill ai trwy'r post, ffacs, testun neu e-bost

 

Sut i gwyno

 

Medrwch gwyno am hysbysebion Cymraeg. Er mwyn i ni ddelio gyda'ch cwyn mor gyflym ac effeithiol ag y bo modd, byddai'n well i chi gyflwyno eich cwyn yn Saesneg. Os ydych yn cwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd angen i ni gyflogi cyfieithwyr yn ystod ein harchwiliad, a all achosi oedi, er ein bod yn ceisio delio gyda holl gwynion o fewn ein Safonau Gwasanaeth. Ni fedrwn dderbyn eich cwyn dros y ffôn os ydych yn dewis cwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Medrwch gwyno trwy gwblhau ein ffurflen gwyno ar-lein neu trwy anfon llythyr neu ffacs. Mae cwynion yn cael eu harchwilio yn rhad ac am ddim, Cyn cwyno, efallai yr hoffech ddarllen ein Taith Dywys i Gwsmeriaid  (sydd wedi ei hysgrifennu yn Saesneg) i weld sut gall yr ASH eich helpu.

 

Os ydych yn cwyno fel unigolyn preifat, ni fyddwn yn eich enwi i'r cwmni sy'n gyfrifol am yr hysbyseb rydych yn cwyno amdano heb eich caniatâd. Fodd bynnag, os yw cwmni'n cwyno, rydym yn ei gwneud yn amod eu bod yn cael eu henwi. Os ydych yn cwyno ar ran cwmni neu gorff medrwch ganfod sut rydym yn delio gyda chwynion cystadleuwyr trwy ddarllen ein Taith Dywys i Hysbysebwyr.

 

Mae ein Polisi Preifatrwydd, sydd yn Saesneg, yn rhoi mwy o wybodaeth ar sut rydym yn delio gyda'ch data personol.

 

Os hoffech gysylltu gyda ni am unrhyw reswm arall, medrwch ysgrifennu atom, ffonio'r rhif isod, neu anfon ffacs.

 

Awdurdod Safonau Hysbysebu
Mid City Place

71 High Holborn

London
WC1V 6QT
Ffôn 020 7580 5555

Ffôn testun 020 7242 3696
Ffacs: 020 7242 8159

 

 

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gwyno?

 

01

Pan fo'r ASH yn derbyn cwyn, caiff ei hasesu yn erbyn y Codau. Os ymddengys bod problem, byddwn yn dweud wrthych ein bod yn derbyn eich cwyn. Os nad oes achos i'w ateb dan ein Codau byddwn yn dweud wrthych; mewn rhai achosion, efallai y medrwn awgrymu corff arall a all helpu.

 

02

Rydym yn ceisio datrys cwynion cyn gynted ag y bo modd. Er enghraifft, medrwn drefnu bod hysbyseb yn cael ei newid os yw'n gamgymeriad bychan, medrwn gael tynnu eich enw oddi ar restr bostio neu holi ynglŷn â nwyddau a archebwyd trwy'r post ar eich rhan. Os nad yw mor syml â hynny, neu os bu achos difrifol o dorri'r Cod, yna efallai y bydd angen archwiliad ffurfiol.

 

03

Mewn archwiliad ffurfiol, rhaid i'r hysbysebwr gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Yna mae Pwyllgor Gwaith yr ASH yn ysgrifennu argymhelliad sy'n mynd i Gyngor yr ASH. Os oes angen, gofynnir am gyngor arbenigol. Yna mae'r Cyngor yn penderfynu os torrwyd y Codau.

 

04

Os torrwyd y codau, rhaid newid neu ddileu'r hysbyseb, ymgyrch hyrwyddo neu farchnata uniongyrchol. Os gwrthodir y gŵyn, ni chymerir unrhwy gamau pellach. Cyhoeddir penderfyniadau'r ASH ar ei wefan yn www.asa.org.uk ac maent ar gael i'r cyfryngau. Hysbysir hysbysebwyr ac achwynwyr ymlen llaw pryd bydd yr achos yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.

 

05

Dan amgylchiadau penodol, caiff hysbysebwyr neu achwynwyr ofyn am arolwg o'r penderfyniad. Mae gan y ddwy ochr 21 diwrnod i ofyn i Arolygydd Annibynnol Penderfyniadau ASH arolygu'r achos yn yr achosion prin hynny lle mae diffyg sylweddol yn y broses neu'r penderfyniad yn amlwg, neu os bydd tystiolaeth ychwanegol berthnasol ar gael. Os yw'r Arolygydd yn derbyn cais am arolwg gall ofyn i'r Cyngor ail-ystyried ei benderfyniad. Ond rhaid bod rhesymau da am arolwg. Mae manylion llawn y drefn arolygu i'w gweld yn y Codau.

 

06

Bydd yr ASH yn sicrhau bod ei benderfyniadau yn cael eu dilyn, er enghraifft trwy weld os bydd unrhyw newidiadau angenrheidiol wedi eu gwneud i hysbysebion. Mae Pwyllgor Gwaith ASH hefyd yn monitro'r cyfryngau i sicrhau bod y Codau yn cael eu glynu atynt. Medrwn hysbysu sectorau busnes o broblemau cyffredinol a all godi mewn hysbysebion wrth i nwyddau a gwasanaethau newydd ddod ar y farchnad.

 

07

Mae mwyafrif llethol hysbysebwyr yn cydymffurfio gyda phenderfyniadau ASH. Mae ASH yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant hysbysebu i weithredu yn erbyn yr ychydig rai nad ydynt yn cydymffurfio. Ni chaiff darlledwyr ddarlledu hysbysebion sy'n torri'r Codau a gall ASH ofyn i gyhoeddwyr beidio ag argraffu hysbysebion nad ydynt yn dilyn y rheolau.

 

08

Yn y pen draw, gall ASH gyfeirio hysbysebwyr heb fod yn rhai sy'n darlledu, sy'n torri'r Cod yn gyson, at y Swyddfa Masnachu Teg er mwyn cymryd camau cyfreithiol dan Reoliadau Rheoli Hysbysebion Camarweiniol. Mae trefn debyg yn bodoli ar gyfer hysbysebion a ddarlledir, lle caiff darlledwr sy'n darlledu hysbysebion sy'n torri'r Codau yn gyson ei atgyfeirio i Ofcom.

 

I gwyno nawr, cliciwch yma i ddefnyddio ein ffurflen gwyno ar-lein.

Features:


back | top