ASH yw’r rheolydd annibynnol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod hysbysebion yn y DU yn gyfreithiol, gweddus, gonest a gwir.

Ymatebwn i gwynion ynglŷn â hysbysebion a’i beirniadu yn erbyn y Codau Hysbysebu - y rheolau mae’n rhaid i bob hysbyseb lynu wrthynt. Gweithredwn yn gyflym ac effeithiol i dynnu’n ôl hysbysebion yr ystyriwn yn gamarweiniol, niweidiol neu sarhaus a’u rhwystro rhag ymddangos eto.

Gall un gŵyn i’r ASA arwain at hysbyseb yn gorfod cael ei newid neu ei dileu.

Mae’r Codau Hysbysebu yn berthnasol i hysbysebion lle bynnag maent yn ymddangos, gan gynnwys mewn:

  • Papurau newydd, cylchgronau 
  • Posteri 
  • Taflenni, pamffledi a chylchlythyrau 
  • Post uniongyrchol 
  • Negeseuon testun (gan gynnwys MMS, SMS a bluetooth) 
  • Teledu a radio 
  • Y rhyngrwyd (baneri, hysbysebion naid, feirals, chwiliad noddedig, cyfathrebiad i farchnata ar wefannau'r cwmnÏau eu hunain a mannau eraill sydd dan eu rheolaeth e.e. Facebook a Twitter) 
  • Sinema

Gwneud cwyn i’r ASH

Mae cwyno i’r ASH yn gyflym, rhad ac am ddim, a hawdd.

Gallwn edrych i mewn i’ch cwyn os:

  • y credwch fod hysbyseb yn gamarweiniol, niweidiol neu sarhaus; 
  • rydych yn cael trafferth i dderbyn nwyddau neu ad-daliad am eitemau a brynwyd drwy archebu drwy’r post neu drwy sianeli siopa teledu; 
  • rydych yn derbyn post nad ydych ei eisiau oddi wrth gwmnïau un ai drwy’r post, e-bost, neges testun neu ffacs, ac 
  • mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio heb eich caniatâd.

Gallwch gwyno un ai ar-lein, ar y teleffon, drwy ffacs neu lythyr. Y ffordd gyflymaf yw drwy lenwi ein ffurflen cwynion ar-lein. Yn Saesneg yn unig mae’n ffurflen cwynion ar-lein ar gael, ond os ydych chi eisiau cwyno drwy gyfrwng y Gymraeg ysgrifennwch atom neu e-bostiwch ni os gwelwch yn dda.

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cwyn byddwn yn asesu a oes sail i ni weithredu. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y camau y dymunwn eu cymryd.

Os ydych yn aelod o’r cyhoedd, ni chaiff eich enw ei ddatgelu i’r hysbysebwr y cwynwch amdano.

Eisiau gwybod mwy amdanom?

Gellir cael gwybodaeth lawn ar ein rôl, cylch gwaith, dyfarniadau a gweithgareddau eraill ar ein gwefan.

Neu gallwch gysylltu gyda ni ar y teleffon, ffacs, post neu ar-lein.