Council Recruitment [Website] 1600 x 900px.jpg

Awdurdod Safonau Hysbysebu yw rheoleiddiwr rheng flaen annibynnol y DU ar gyfer hysbysebion gan fusnesau cyfreithlon ym mhob cyfrwng, yn cynnwys ar-lein. Rydym yn awdurdodol a cyn ddylanwadol ar reoleiddio hysbysebion; canolbwynt arbenigedd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â ni wrth i ni ddechrau ar drydedd flwyddyn ein strategaeth 2024-2028, sy'n canolbwyntio a rheoleiddio â chymorth AI, gan roi'r cyhoedd yn gyntaf a gweithio'n fwyfwy cydweithredol â busnesau a rheoleiddwyr statudol. 

Mae aelodau'r cyngor yn rheoli ar dderbynioldeb hysbysebion ac yn gweithredu fel cyfarwyddwyr bwrdd yr ASA, gan siapio cyfeiriad rheoleiddio hysbysebu. Mae gennym ddwy swydd wag ar y Cyngor Aelodau Annibynnol ac un swydd wag ar y Cyngor Aelod Cefndir o'r Asiantaeth, o fis Ebrill 2026. 

I gymhwyso fel Aelod Annibynnol, byddwch yn annibynnol o'r diwydiant hysbysebu. Ar gyfer un o'r ddwy rôl Aelod Annibynnol, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad cryf ac yn ddelfrydol yn a/neu weithio yng Nghymru ar hyn o bryd. I gymhwyso fel Aelod Cefndir o'r Asiantaeth, bydd gennych brofiad o hysbysebu ar ochr yr asiantaeth. Byddwch yn gallu dod â'ch profiad, arbenigedd a mewnwelediadau yn y diwydiant i'n rheoleiddio, ond byddwch yn cyfrannu fel unigolyn nid cynrychiolydd asiantaeth. Mae ein pecyn ymgeisydd yn cynnwys rhagor o fanylion ynghylch cymhwysedd. 

Rydym yn falch o'n rôl yn amddiffyn pobl rhag hysbysebu camarweiniol, niweidiol, sarhaus ac, fel arall, anghyfrifol. Ond mae angen i ni wneud hyd yn oed mwy mewn byd sy'n newid yn gyflym. Mae Cyngor ASA cryf, deinamig ac amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant yn y dyfodol. 

Rydym yn croesawu ymgeiswyr â nodweddion gwarchodedig yn gynnes ac mae amrywiaeth ddemograffig yn bwysig i ni, ond rydym hefyd yn chwilio am amrywiaeth o feddwl. Rydym eisiau i wahanol safbwyntiau herio rhagdybiaethau a meddwl grŵp a chyflwyno penderfyniadau mwy cadarn a chyflawn. Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr anrhydeddu Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.  

Dyddiad dechrau: Ebrill 2026. 

Sut i wneud cais: Os hoffech ragor o wybodaeth, neu i wneud cais, ewch i www.asa.org.uk/councilrecruitment, darllenwch y pecyn ymgeiswyr a llenwi'r ffurflen gas berthnasol. Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch yn ystod y cyfweliad, gadewch i ni wybod. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llin 3 Tachwedd 2025 am 10am.