Rheoleiddiwr annibynnol yw’r ASA, sy’n gyfrifol am sicrhau bod hysbysebion yn y DU yn gyfreithlon, gweddus, gonest a manwl gywir.
Rydym yn asesu cwynion am hysbysebion ac yn eu barnu yn erbyn y Codau Hysbysebu. Rydym yn gweithredu’n gyflym ac effeithiol i gael gwared ar hysbysebion yr ydym yn eu hystyried i fod yn gamarweiniol, niweidiol neu annymunol, a’u hatal rhag ail ymddangos.
Gall un gŵyn yn unig i’r ASA sicrhau bod hysbyseb yn cael ei diddymu.
Mae’r Codau Hysbysebu yn berthnasol i hysbysebion ble bynnag y maent, gan gynnwys:
- Papurau newydd a chylchgronau
- Posteri
- Taflenni, pamffledi a chylchlythyrau
- Post uniongyrchol
- Negeseuon testun ac e-byst
- Teledu, radio a fideo ar alw
- Ar-lein (baneri, negeseuon naid, chwilio noddedig, hawliadau marchnata ar wefannau’r cwmnïau eu hunain a lleoliadau eraill dan eu gofal, gan gynnwys llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol (e.e. Facebook, Instagram a Youtube))
- Sinema
Gwneud cwyn i’r ASA
Mae’n gyflym, yn rhwydd ac yn rhad ac am ddim i wneud cwyn i’r ASA.
Gallwn edrych yn fanylach ar eich cwyn os:
- ydych yn ystyried fod hysbyseb yn gamarweiniol, niweidiol neu annymunol;
- ydych yn cael anhawster cael nwyddau ar gyfer eitemau a brynwyd o bell;
- ydych yn derbyn e-byst dieisiau gan gwmnïau drwy’r post, e-bost, neges destun, ac
- yw eich data personol yn cael ei ddefnyddio heb eich caniatâd.
Gallwch gyflwyno cwyn ar-lein, neu mewn llythyr. Y ffordd gyflymaf yw llenwi ein ffurflen gwynion ar-lein. Mewn Saesneg yn unig y gellir llenwi ein ffurflen gwynion ar-lein, ac os hoffech gyflwyno cwyn yn y Gymraeg, cewch ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom ([email protected]).
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cwyn, byddwn yn asesu a oes unrhyw sail i ymchwilio ymhellach. Byddwn yn eich hysbysu o’r camau y byddwn yn eu cymryd dim ond os ydym yn penderfynu ei bod yn bosibl fod y Codau wedi’u torri.
Os ydych yn aelod o’r cyhoedd, ni ddatgelir eich hunaniaeth.
Eisiau gwybod mwy amdanom ni?
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth lawn am ein rôl, cylch gwaith, dyfarniadau a gweithgareddau eraill ar ein gwefan.
Neu gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu ar-lein.
Advertising Standards Authority
Castle House
37-45 Paul Street
London
EC2A 4LS
Ar-lein www.asa.org.uk
Rhif ffôn 020 7492 2222